Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro John Beynon

(September 01, 2013)

English

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro John Beynon, C.G.F.

John Beynon

 

Mae cynnydd mewn gwyddoniaeth yn digwydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, gydag amserlenni gwahanol fel arfer, gan ddibynnu ar anghenion masnachol a gwleidyddol. Er enghraifft, mae amserlen hir yn y gwyddorau botanegol o achos y sgil angenrheidiol yw arsylwi mathau o bethau naturiol a'u datblygiad. Sylfaenydd y maes hwn oedd Carolus Linnaeus (1707 – 1778) a ddyfeisiodd system terminoleg biolegol ar gyfer grwpio planhigion ac anifeiliaid. Cyn hyn braidd yn blith draphlith oedd cofnodion arsylwadau ymchwilwyr. Yn dilyn Linnaeus bu gwelliant dramatig yn y cofnod, ond ni fu'r cynnydd yn amlwg i'r cyhoedd. Serch hynny, bu cryn newid allan o olwg y cyhoedd mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth. Pwy a ŵyr beth a ddigwydd yn y dyfodol agos pan fydd cymdeithas yn dod i sylweddoli sut y gellir elwa, er da neu er drwg, ar drysorau byd natur, hyn oll yng nghyd-destun bwydo poblogaeth gynyddol y byd a gwella safonau iechyd.

Mewn cyferbyniad â chofnod gwyddoniaeth fotanegol bu newidiadau mawr dros y ganrif ddiwethaf mewn gwyddorau biolegol eraill, yn enwedig meddygaeth, er na fu cymhwysiad yr wybodaeth newydd hon yn unffurf ar draws y byd. Ystyriwch, er enghraifft, achos llawfeddygaeth blastig, a ddaeth i fod ac a ddatblygodd yn nau ryfel byd yr ugeinfed ganrif. Stori debyg sydd i ffiseg a chemeg a'u technolegau cyfatebol a mathau o beirianneg. Yn yr achosion hyn ym aml gyrrwyd cynnydd gan ofynion militaraidd, gwleidyddool neu fasnachol. Roedd disgyblaethau awyrenneg a mentrau gofod yn ymatebion i reidrwydd cystadlu gwleidyddol a masnachol.

Yn yr enghreiftiau hyn a llawer mwy dibynnodd cynnydd ar ymlyniad dygn, llafurus hyd yn oed, wrth dechnegau arbrofol oedd wedi hen ennill eu plwyf, ynghyd â gwelliannau cyson. Gallai cynnydd ond digwydd pan oedd ar gael ddigon o ddata dibynadwy a roddai seiliau i godi damcaniaethau arnynt parthed a oedd y data yn datgelu rhyw batrwm ymddygiad ai peidio.

A derbyn realaeth gwrs profiad bod gwaith caled yn sail i ddatblygiad cadarn, mae’n wir hefyd, o bryd i'w gilydd, bod camau cynnydd yn dod yn sgîl newydd-deb syniad sylfaenol, ambell un o arsylwad cwbl annisgwyl. Byddai'r dargyfeiriad hwn yn cael ei alw'n ddatgeliad gan rai ac yn dro bach o lwc gan eraill. Hyn a ddigwyddodd yng ngyrfa John Beynon.

Ganed John Henry Beynon ar y 23ain o Ragfyr 1923 yn Ystalyfera, tua 12 milltir o Abertawe. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol-y-Wern, yn bennaf drwy'r Gymraeg. Roedd yn bencampwr ar rifyddeg, i'r graddau, pan aeth i'r ysgol uwchradd yn eithriadol o ifanc yn naw oed, roedd yn cynorthwyo’i athro drwy farcio gwaith ei gyd-ddisgyblion.

Yn Ysgol Sir (Gramadeg) Ystalyfera derbyniodd ei addysg drwy'r Saesneg, yn ôl ffasiwn y cyfnod, er bod yr ardal yn naturiol ddwyieithog. Ymhlith y profiadau deniadol newydd cafodd flas arbennig ar Ladin. Yn syth roedd yn llwyddiannus ynddi, hwyrach oherwydd bod ei rheolai gramadeg tynn yn apelio at ei dueddfryd 'gwyddonol' cynhenid. Boed hynny fel y bo gallasai fod yn glasurwr, oni bai iddo gymryd yn erbyn ei athro Lladin yn y dosbarthiadau hŷn. O achos hyn, trôdd at y gwyddorau yn y chweched dosbarth (ôl-16 heddiw). Felly y mae dewisiadau gyrfa yn digwydd weithiau!

Cafwyd perswâd arno i ddilyn set llydan o gyrsiau (cemeg, ffiseg, mathemateg bur, mathemateg gymhwysol) at Lefel A (Tystysgrif Ysgol Uwch, bryd hynny). Wedi iddo ennill llwyddiant ar y lefel honno aeth i Goleg y Brifysgol, Aberatwe lle graddiodd yn ffiseg, Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, gan ollwng cemeg ar y ffordd. Wrth edrych yn ôl mae’n rhyfeddol nodi bod ei yrfa wedi cynnwys pedair cadair cemeg mewn prifysgolion yn y DU a UDA, ond dim un ffiseg.

Yn dilyn gwasanaeth milwrol gyda thanciau symudodd John i fod ar staff y cwmni anferthol Imperial Chemical Industries (ICI) ym Manceinion. Roedd y cwmni yn cynnal rhaglenni ymchwil a threfniadau masnach gydag amrywiaeth mawr o gynhyrchion cemegol megis lliwuriau, polymerau a sylweddau gwrth-ddŵr. Yma roedd ef yn un o gwmni bychan o ffisegwyr ymhlith torf o gemegwyr. Yn yr amgylchedd hon dysgodd lawer am gemeg sylfaenol sylweddau a hefyd, cyn bwysiced, hogi arfau bod mewn tîm.

Patrwm isotopig o beptid, gofnodwyd gan sbectromedr màs Q-TOF. Awdur: Maciej KotlińskiPatrwm isotopig o beptid, gofnodwyd gan sbectromedr màs Q-TOF. Awdur: Maciej Kotliński

Ble roedd y tro bach o lwc yn ei yrfa? Mewn llythyr at awdur yr erthygl hon mae'n dwyn i gof brofiad yn 1970 pan weithiai yn yr UDA, "roeddem yn astudio sut y maluriwyd ionau positif a symudai ar gyflymder uchel wrth iddynt basio trwy ardal gwrthdrawiad yn cynnwys nwy ar wasgedd isel. Dadansoddwyd cynhyrchion y gwrthdrawiadau trwy drefnu iddynt groesi ardal drydan gyda foltedd amrywiol ar draws platiau. Un diwrnod cysylltodd myfyriwr ymchwil newydd ... y platiau ... yn groes i'r cywir. Cafwyd sbectrwm ... ond y sbectrwm rhyfeddaf a welsom erioed ... Pan sylweddolwyd ei gamgymeriad ... gallaswn fod wedi mwynhau chwerthin iach a mynd yn ôl i'r drefn arferol. Ond yn lle hynny, rhoesom gynnig ar esbonio'r sbectrwm, gan ddarganfod dosbarth adwaith newydd ... Arweiniodd hyn at ddatblygu ystod sbectrosgopi cwbwl newydd ... ".

Felly, er bod tro bach o lwc yn allweddol, er nad yn cael ei werthfawrogi ar y pryd, beth sydd hefyd yn allweddol ar gyfer sicrhau cynnydd yw ymagwedd, eto yng ngeiriau Beynon, " ... os gwelwch rywbeth nad oeddech yn ei ddisgwyl, neu na allwch ei esbonio, stopiwch a rhowch ymdrech wirioneddol ar geisio deall beth sy wedi digwydd. Mae'r athroniaeth hon wedi fy arwain, dro ar ôl tro, i ddarganfyddiadau newydd ... ".

Mae'r geiriau sbectrosgopeg a sbectrometreg yn rhannu'r un stem â sbectrwm sydd yn arddangosiad, mewn trefn benodol, o deip neu faintioli neu nodwedd arall. Yr enghraifft fwyaf nodedig a chyffredin yw enfys gyda’i lliwiau, pob lliw yn cynrychioli tonnau goleuni o donfeddi gwahanol. Mae'r ffenomen hon yn rhan fach iawn o'r sbectrwm electromagnetig sy'n cynnwys tonnau radio a phelydrau-X, pob un wedi'i wahaniaethu ar sail tonfedd a, felly, yn addas at ddibenion gwahanol.

Mae sbectrometreg màs (mass) o'r un math ond gyda màs, nid tonfedd, yn nodwedd wahaniaethol. Os ydyw sylwedd yn cynnwys amrywiol sylweddau o fasau sylfaenol gwahanol, mae'r broses yn medru eu nabod oddiwrth ei gilydd a nodi faint o bob un sy'n bresennol. Mae hyn yn erfyn pwerus iawn ar gyfer technegau dadansoddi heddiw, megis, adnabod achosion camddefnyddio cyffuriau.

Cafodd gwaith gwych John Beynon gyda sbectrometreg màs, yn bennaf dros yrfa hir gyda ICI, ei gydnabod yn 1971 pan etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (C.G.F.). Yn 1974 derbyniodd Ysgoloriaeth Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol i'w lleoli mewn prifysgol o'i ddewis; dewisodd ei alma mater – Prifysgol Abertawe. Dilynodd ei ymchwil yno am ddeuddeng mlynedd, yn arwain tîm cryf, tan ei ymddeoliad, gan sefydlu sail i ddatblygiad sydd heddiw yn ganolfan ardderchowgrwydd ryngwladol yn arbenigo ar sbectrometreg màs. Go brin bod amlygiad mwy addas a gweledig o beth all ddigwydd pan gaiff tro bach o lwc ei feithrin gan ymroddiad dygn.

Rwyn ddiolchgar i'r Athro Gareth Brenton am wybodaeth berthnasol i'r erthygl hon. Bu'r Athro Brenton yn cydweithio gyda JB dros nifer o flynyddoedd. Mae ar staff y Sefydliad Sbectrometreg Màs ym Mhrifysgol Abertawe.

Neville Evans, 1 Medi 2013

 


Os hoffech hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

 

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013

     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

    
Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
    
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

© 2013 Caregos Cyf. | Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create